Cynulliad Llundain

Y Siambr y Cynulliad Llundain yn Neuadd Dinas

Cynulliad rhanbarthol ar gyfer dinas Llundain, prifddinas Lloegr a'r DU, yw Cynulliad Llundain (Saesneg: London Assembly). Sefydlwyd y Cynulliad yn y flwyddyn 2000 ac mae ei bencadlys yn Neuadd Dinas Llundain (City Hall). Mae'r Cynulliad yn cynnwys 25 aelod a etholir trwy'r System Aelod Ychwanegol. Mae'n cwrdd mewn sesiynau llawn bob pythefnos.

Etholir Maer Llundain trwy etholiad ar wahân. Ken Livingstone (Llafur) oedd y maer cyntaf; cafodd ei olynu gan Boris Johnson (Ceidwadwyr) yn 2008. Un o swyddogaethau'r Cynulliad yw arolygu gweithredoedd Maer Llundain, eu cymeradwyo neu eu gwrthwynebu.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search